Partneriaid Addysg OneNote
Mae gan OneNote Class Notebook integreiddiad LMS gyda Gallu i Gydweithio ag Offer Dysgu (LTI).

Blackbaud
Yn Blackbaud, rydyn ni’n deall yr heriau sy'n wynebu ysgolion preifat heddiw ac rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i ddarparu ysgol y dyfodol pan-ar unrhyw bryd- gall myfyrwyr fod yn gwirio aseiniadau gwaith cartref, gall athrawon fod yn cofnodi graddau, gall rhieni fod yn talu eu biliau, gall staff yr ysgol fod yn perfformio amrywiaeth o swyddogaethau gweinyddol yn hawdd, a llawer mwy-a’r cyfan o fewn un system fodern, seiliedig ar gwmwl, cwbl gysylltiedig.
Blackboard
Cenhadaeth Blackboard yw bod yn bartner yn y gymuned addysg fyd-eang er mwyn galluogi dysgwyr a sefydliadau i lwyddo, gan ysgogi technolegau a gwasanaethau arloesol. Gan fod gan Blackboard ddealltwriaeth fanwl o fyd y dysgwr, y datrysiadau mwyaf cynhwysfawr ar gyfer galluogi myfyrwyr i lwyddo, a'r capasiti mwyaf ar gyfer arloesi, nhw yw partner o ddewis byd addysg ar gyfer gwneud newidiadau.
Brightspace
Ac yntau'n arweinydd byd eang ym maes technoleg addysg, D2L sydd wedi creu Brightspace, y platfform dysgu hollol integredig cyntaf yn y byd. Mae dros 1,100 o gleientiaid a bron 15 miliwn o ddysgwyr unigol yn addysg uwch, K-12, gofal iechyd, llywodraeth a'r sector menter yn manteisio ar blatfform agored ac estynadwy D2L. Mae eu datrysiad yn integreiddio'n ddirwystr gydag Office 365, Outlook, OneDrive, Mix ac OneNote.
Canvas
Ar waith 99.9%, Canvas yw'r platfform dysgu mwyaf dibynadwy, addasadwy, a hawdd ei ddefnyddio. Mae wedi cael ei fabwysiadu'n gynt, ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn mwy o ffyrdd gan fwy o ddefnyddwyr nag unrhyw LMS arall. Edrychwch i weld sut mae Canvas yn gwneud dysgu ac addysgu'n haws i bawb.
itslearning
Yma, wrth galon addysg, fe welwch LMS k12 sydd mor hawdd ei ddefnyddio o’r dechrau, mae’n hyfryd i’w ddefnyddio. Mae mor ddeallus, mae’n herio ffiniau dosbarth ffisegol tra’n argymell adnoddau dysgu sydd wedi’u halinio â safonau ar gyfer pob myfyriwr. Ac mor ysbrydoledig, mae’n rhoi’r hwyl yn ôl mewn dysgu ac addysgu.
LoveMySkool
Mae LoveMySkool yn grymuso addysgwyr ledled y byd i ymgysylltu â myfyrwyr. Mae ei nodweddion hynod ddatblygedig yn ei gwneud yn un o'r Systemau Rheoli Dysgu gorau.
Moodle
Moodle yw'r platfform dysgu ffynhonnell agored sy'n cael ei ddefnyddio gan ysgolion, prifysgolion, gweithleoedd a sectorau eraill ym mhedwar ban byd mewn dros 100 o ieithoedd. Gyda bocs tŵls y gallwch ei addasu'n bersonol ar gyfer athrawon, gweinyddwyr a myfyrwyr, yn cynnwys apiau symudol sy'n gweithio ochr yn ochr ag ef. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw senario sy'n amrywio o hyfforddiant strwythuredig iawn i leoedd cydweithio agored, mewn cyd-destun ar-lein neu gyfun.
NEO By Cypher Learning
Mae NEO yn system rheoli dysgu (LMS) sy'n ei gwneud hi'n hawdd creu a rheoli'r holl weithgareddau dysgu, boed hynny'n adeiladu dosbarthiadau ar-lein, asesu myfyrwyr, gwella cydweithio, neu olrhain llwyddiant.
Sakai
Mae Sakai yn darparu cyfoeth o offer pwerus a hyblyg sy'n galluogi addysgu gwych, dysgu cymhellol, a chydweithio deinamig.
School Bytes
Gyda School Bytes LMS, gall athrawon greu a graddio aseiniadau ar gyfer eu dosbarthiadau gan ddefnyddio'r ategyn Llyfr Nodiadau Dosbarth OneNote. Caiff y newidiadau hyn eu cyhoeddi'n awtomatig yn ôl i School Bytes, fel nad oes rhaid rhoi data i mewn â llaw. Ar y cyd ag integreiddio Microsoft Office Online yn ddi-dor, gall athrawon a myfyrwyr gael mynediad at brofiad Office 365 unedig a chyfoethog.
Schoology
Mae Schoology yn gwmni technoleg addysg sy'n rhoi prosesau cydweithio wrth galon y profiad dysgu. Mae cwmwl addysg Schoology yn cysylltu'r bobl, y cynnwys a'r systemau sy'n ysgogi addysg, ac yn darparu'r holl offer sydd eu hangen i bersonoli'r addysg a gwella canlyniadau myfyrwyr. Mae dros 12 miliwn o bobl o 60,000 o ysgolion a phrifysgolion K-12 ym mhedwar ban byd yn defnyddio Schoology i drawsnewid sut maen nhw'n dysgu ac yn addysgu.