Gallwch gasglu cynnwys o'r we a phlannu gwersi sydd eisoes yn bodoli yn eich llyfr nodiadau dosbarth i greu cynlluniau gwersi personol.
Gallwch gynnwys recordiadau sain a fideo i greu gwersi rhyngweithiol difyr i fyfyrwyr.
Gall myfyrwyr ddefnyddio offer lluniadu pwerus i amlygu, gwneud nodiadau ar sleidiau, braslunio diagramau, a gwneud nodiadau mewn llawysgrifen.
Mae eich llyfr nodiadau dosbarth yn ei gwneud yn haws i chi gasglu gwaith cartref, cwisiau, arholiadau a thaflenni.
Bydd myfyrwyr yn mynd i'r llyfrgell gynnwys i gael eu haseiniadau. Dim mwy o argraffu taflenni ar gyfer y dosbarth.