Llyfr Nodiadau Dosbarth OneNote
Arbed Amser. Trefnu. Cydweithio.
Mae Llyfrau Nodiadau Dosbarth OneNote yn cynnwys lle gwaith personol i bob myfyriwr, llyfrgell cynnwys ar gyfer taflenni, a gofod cydweithio ar gyfer gwersi a gweithgareddau creadigol.
Mewngofnodi Llyfr Nodiadau Dosbarth

Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif Office 365 o'ch ysgol i gychwyn arni.
Mae popeth sydd ei angen arnoch wedi'i gynnwys
Mae'r Llyfr Nodiadau Dosbarth nawr yn rhan o OneNote ar gyfer Microsoft 365 ar y we, Windows, Mac ac iPad. Does dim angen ategyn.

Os ydych chi'n defnyddio OneNote 2016, 2019, neu 2021 a does gennych chi ddim Microsoft 365, efallai y bydd dal angen i chi ddefnyddio'r ategyn Llyfr Nodiadau Dosbarth mae modd ei lwytho i lawr.

Os oes modd i chi ddilyn y camau yma yn eich fersiwn Bwrdd Gwaith o OneNote, does dim angen hen ategyn y Llyfr Nodiadau Dosbarth arnoch chi. Fel arall, gallwch lwytho'r hen ategyn i lawr yma . Os ydych chi am ddefnyddio'r hen ategyn yn eang ar draws sawl cyfrifiadur neu os ydych chi'n Weinyddwr TG, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Rhoi trefn ar gynnwys eich cwrs
Gallwch roi eich cynlluniau gwersi a chynnwys y cwrs mewn trefn yn eich llyfr nodiadau digidol eich hun.
Gallwch gadw popeth mewn Llyfr Nodiadau Dosbarth OneNote, gan fanteisio ar ei beiriant chwilio pwerus i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, hyd yn oed testun mewn lluniau neu lawysgrifen.
Bydd eich llyfrau nodiadau'n cael eu cadw'n awtomatig a gallwch eu gweld ar unrhyw ddyfais, ar-lein neu all-lein.
Hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim
Cadw trefn ar bethau gydag OneNote >
Creu a darparu gwersi rhyngweithiol
Gallwch gasglu cynnwys o'r we a phlannu gwersi sydd eisoes yn bodoli yn eich llyfr nodiadau dosbarth i greu cynlluniau gwersi personol.
Gallwch gynnwys recordiadau sain a fideo i greu gwersi rhyngweithiol difyr i fyfyrwyr.
Gall myfyrwyr ddefnyddio offer lluniadu pwerus i amlygu, gwneud nodiadau ar sleidiau, braslunio diagramau, a gwneud nodiadau mewn llawysgrifen.
Mae eich llyfr nodiadau dosbarth yn ei gwneud yn haws i chi gasglu gwaith cartref, cwisiau, arholiadau a thaflenni.
Bydd myfyrwyr yn mynd i'r llyfrgell gynnwys i gael eu haseiniadau. Dim mwy o argraffu taflenni ar gyfer y dosbarth.
Hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim
Creu gwersi rhyngweithiol gydag OneNote >
Cydweithio a darparu adborth
Mae'n darparu cymorth wedi'i addasu'n bersonol drwy deipio neu ysgrifennu'n uniongyrchol yn llyfr nodiadau preifat pob myfyriwr.
Mae'r gofod cydweithio'n annog myfyrwyr i weithio gyda'i gilydd wrth i'r athro gynnig adborth a mentora mewn amser real.
Drwy chwilio am dagiau'n gofyn am help, gall athrawon roi adborth ar unwaith i fyfyrwyr sy'n cael trafferth.
Cychwyn Arni Nawr