OneNote

Adborth
Mewngofnodi
  • Outlook.com
  • Cysylltiadau
  • Calendr
  • OneDrive
  • Word
  • Excel
  • PowerPoint
  • OneNote
  • Sway
  • Skype
  • Office
  • Flow

Ar y blaen yn yr ysgol gydag OneNote

CADWCH NODIADAU ANHYGOEL
GWEITHIO GYDA FFRINDIAU
GORFFEN GWAITH CARTREF YN GYFLYMACH

Cadwch nodiadau anhygoel

Tynnwch luniau o fyrddau gwyn

Cipio bwrdd gwyn, sleid neu ddogfen yn gyflym. Bydd OneNote yn ei docio a'i wella i'w wneud yn haws ei ddarllen. Rydyn ni hefyd yn adnabod testun sydd wedi'i deipio, er mwyn i chi allu chwilio amdano yn nes ymlaen.

Braslunio neu ysgrifennu â llaw

Lluniadwch y diagram o'r bwrdd gydag ysgrifbin. Ysgrifennwch eich holl nodiadau â llaw os ydy hynny'n haws i chi na theipio.

Recordio'r sain

Peidiwch ag ysgrifennu pob gair o'r ddarlith-dim ond y rhannau pwysig. Mae OneNote yn cysylltu eich nodiadau i'r sain, felly gallwch chi neidio i beth oedd yn cael ei ddweud pan wnaethoch chi wneud pob nodyn.

Creu rhestri pethau i'w gwneud a mwy

Cafodd OneNote ei ddylunio i fod yn gyflym ac yn hyblyg ar gyfer testun, rhestri pethau i'w gwneud a thablau. Peidiwch ag anghofio am gynlluniau, teipiwch unrhyw le yn y dudalen.

Gweithio gyda ffrindiau

Rhannu ag unrhyw un

Os oes gennych chi eu e-bost, gallwch rannu â nhw. Mae cychwyn arni yn hawdd ac yn gyflym.

Golygu gyda'ch gilydd mewn amser real

Os ydych chi yn yr un ystafell neu ym mhen draw'r campws, gweithiwch gyda'ch gilydd mewn amser real. Mae marciau adolygu yn dangos i chi pwy sy'n gweithio ar beth.

Gweithio o unrhyw ddyfais, unrhyw le

Yn y dosbarth, yn eich ystafell, mewn labordy cyfrifiadurol neu mewn siop goffi-gallwch weithio gyda'ch gilydd o unrhyw le ar unrhyw ddyfais. Mae OneNote yn cysoni ac yn cadw'r cyfan gyda'i gilydd i chi yn awtomatig, hyd yn oed os aiff rhywun all-lein.

Gorffen gwaith cartref yn gyflymach

Clipio'r we

Mae ymchwil ar y we yn hanfodol i'r rhan fwyaf o brosiectau. Gallwch gipio unrhyw dudalen we mewn unrhyw borwr gydag un clic. Anodi'r dudalen yn OneNote.

Anodi sleidiau a dogfennau

Cadwch sleidiau a phapurau darlithoedd gyda'ch nodiadau. Cadwch nodiadau ar eu pen neu wrth eu hymyl drwy deipio neu ysgrifennu gydag ysgrifbin.

Trefnu eich meddyliau unrhyw le

Ysgrifennu ar ben lluniau neu brintiadau. Trefnwch gyda nodiadau gludo, i wneud synnwyr o'ch syniadau. Rhowch sylwadau drwy ysgrifennu yn yr ymylon.

Byddwch yn drefnus, rheol ysgol

Ffeilio neu gelcio? Mae OneNote yn caru'r ddau. Cadwch drefn ar eich nodiadau a'ch prosiectau drwy greu llyfrau nodiadau ac adrannau. Gallwch chwilio a dod o hyd yn hawdd i unrhyw destun roeddech chi wedi'i deipio, ei glipio neu ei ysgrifennu â llaw.

Cael OneNote am ddim

OneNote

Am ddim i'r holl fyfyrwyr
Llwytho i lawr am ddim
Windows, Mac, iOS ac Android.
Ddim yn siŵr? Explore Sample Notebooks

OneNote gydag Office 365

Am ddim mewn ysgolion sy'n gymwys
Gwirio cymhwysedd
Cael OneNote, Word, Excel, a PowerPoint ar draws eich dyfeisiau.
Newid Iaith
Preifatrwydd a Briwsion Cyfreithiol Nodau masnach Preifatrwydd Iechyd Defnyddwyr © 2025 Microsoft.com