Llyfrau Nodiadau Staff OneNote
Meithrin a rheoli cydweithrediad rhwng addysgwyr
Mae Llyfrau Nodiadau Staff OneNote yn cynnwys lle gwaith personol ar gyfer pob aelod o staff neu athro, llyfrgell cynnwys i rannu gwybodaeth, a gofod cydweithio er mwyn i bawb weithio gyda'i gilydd, i gyd mewn un llyfr nodiadau pwerus.
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif Office 365 o'ch ysgol i gychwyn arni.

Ewch ati i greu cyfrif Office 365 am ddim >
Cydweithredu mewn un lle
Mae'r gofod cydweithio wedi cael ei ddylunio ar gyfer gweithgareddau grŵp fel cynlluniau sy'n cael eu rhannu ar draws adran neu ar draws y staff i gyd.
Cydweithiwch ar nodiadau, tasgau a chynlluniau mewn un llyfr nodiadau, a gallwch gael gafael ar y cyfan drwy ddefnyddio chwilio pwerus OneNote.
Rhannu gwybodaeth â phawb
Defnyddiwch y llyfrgell cynnwys i gyhoeddi polisïau, gweithdrefnau, dyddiadau cau a'r calendr ysgol.
Mae hawliau yn y llyfrgell cynnwys yn caniatáu i'r arweinydd staff olygu a chyhoeddi gwybodaeth, ond fydd pobl eraill ddim ond yn cael gweld a chopïo'r cynnwys.
Datblygwch eich hun a'ch gwaith
Mae gan bob aelod o staff le preifat i weithio, a fydd yn cael ei rannu ag arweinydd y staff yn unig. Mae modd defnyddio'r llyfr nodiadau hwn ar gyfer datblygiad proffesiynol, arsylwadau yn yr ystafell ddosbarth ac er mwyn cyfathrebu â rhieni.
Mae aelodau o staff yn gallu personoli'r llyfrau nodiadau hyn yn ôl eu hanghenion eu hunain. Mae'n eu galluogi i storio'r wybodaeth maen nhw'n cyfeirio ati'n aml mewn fformat sy'n gwneud synnwyr iddyn nhw.
Cychwyn Arni Nawr
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif Office 365 o'ch ysgol i ddechrau arni neu i reoli Llyfrau Nodiadau Staff sydd eisoes yn bodoli