Dewiswch y llyfr nodiadau a'r adran ddiofyn lle bydd eich negeseuon e-bost yn cael eu cadw.
Cynnwys e-bost
Anfonwch neges e-bost i me@onenote.com i'w chadw'n uniongyrchol yn OneNote. Gallwch gael gafael ar y negeseuon e-bost rydych chi wedi'u cadw yn OneNote o unrhyw un o'ch dyfeisiau.
Cadarnhad Taith
Cadwch lygad ar y cynlluniau teithio sydd gennych chi ar y gweill yn OneNote drwy anfon eich negeseuon e-bost sy'n cadarnhau eich hediad a'ch gwesty ymlaen.
Nodyn cyflym i chi'ch hun
Gwnewch nodyn am syniad neu dasg ar gyfer rhywbryd eto a'i gadw yn OneNote.
Derbynebau
Cadwch dderbynebau ar gyfer y pethau rydych chi'n eu prynu ar-lein sy'n golygu ei bod hi'n hawdd eu ffeilio a'u canfod.
Negeseuon e-bost pwysig
Cadwch neges e-bost byddech chi efallai eisiau edrych arni rywbryd eto ar ddyfais arall.
Cwestiynau Cyffredin
Ydw i'n gallu anfon negeseuon e-bost o gyfeiriad e-bost nad yw'n un Microsoft?
Gallwch chi ychwanegu unrhyw gyfeiriad e-bost rydych chi'n berchen arno at eich cyfrif Microsoft a'i alluogi ar gyfer y nodwedd hon.
Ble mae fy negeseuon e-bost yn cael eu cadw?
Gallwch chi newid eich lleoliad cadw diofyn ar y Tudalen gosodiadau. Gallwch hefyd ddewis adran wahanol i gadw neges e-bost unigol drwy gynnwys y symbol "@" wedi'i dilyn gan enw'r adran yn llinell pwnc eich neges e-bost.