Microsoft OneNote
Eich llyfr nodiadau digidol
Un llyfr nodiadau traws-swyddogaethau ar gyfer eich holl anghenion cymryd nodiadau.
Copilot yn OneNote, hybu eich cynhyrchiant
Fel eich partner cymryd nodiadau, mae Copilot yn OneNote yn defnyddio’ch anogwyr i ddrafftio cynlluniau, cynhyrchu syniadau, creu rhestrau, trefnu gwybodaeth, a mwy.
Braslunio, anodi, ac amlygu’n rhwydd
Mae OneNote yn eich galluogi i gyfuno pŵer inc digidol gyda theimlad naturiol ysgrifbin i'ch helpu i amlinellu eich ysbrydoliaeth.
Rhannu a Chydweithio
Dydy meddyliau gwych ddim bob amser yn meddwl yn debyg, ond maen nhw'n gallu rhannu syniadau a chreu gyda'i gilydd yn OneNote.
Peidiwch â cholli manylion gyda thrawsgrifiad llais
Mae trawsgrifio llais yn ei gwneud yn haws nac erioed i chi gipio eich nodiadau'n effeithlon, canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig, ac adolygu eich cynnwys rywbryd eto.
OneNote mewn Addysg
Gall athrawon ddefnyddio OneNote i drefnu cynlluniau gwers mewn llyfrau nodiadau digidol chwiliadwy, a gall staff greu llyfrgell cynnwys y gellir ei rhannu. Anogwch fyfyrwyr i ysgrifennu nodiadau â llaw a braslunio diagramau.
-
Windows
-
Apple
-
Android
-
Y We