Creu yn eich ffordd chi
Ydych chi’n gwneud nodiadau bras o syniadau gwych ar gefn amlen a nodiadau gludiog? Neu ydy ffeilio gofalus yn mynd â’ch bryd chi fwy? Mae OneNote yma i’ch helpu pa ffordd bynnag y byddwch chi’n rhoi trefn ar eich meddwl. Gallwch deipio, ysgrifennu neu dynnu lluniau gyda’r un rhyddid â phensil ar bapur. Gallwch chwilio a chlipio oddi ar y we i ysbrydoli eich syniadau.

Gallwch gydweithio gydag unrhyw un
Mae eich tîm wrthi’n dyfeisio syniad y ganrif. Mae eich teulu yn cynllunio’r fwydlen ar gyfer aduniad mawr. Gallwch rannu’r un dudalen a honno wedi’i chysoni lle bynnag yr ydych.

Meddyliwch gydag inc
Barod? Tynnwch lun. Ysgrifbin neu blaen eich bys yw'r unig offer byddwch chi eu hangen. Gallwch gymryd nodiadau mewn llawysgrifen a’u trosi yn destun wedi ei deipio yn ddiweddarach. Gallwch amlygu yr hyn sy’n bwysig a chyfleu syniadau gan ddefnyddio lliwiau neu siapiau.

Mynediad o unrhyw le
Gwrandewch. Mae'n hawdd gweld eich cynnwys yn unrhyw le, hyd yn oed os ydych chi heb gysylltu. Gallwch ddechrau ar eich gliniadur ac yna diweddaru nodiadau ar eich ffôn. Mae OneNote yn gweithio ar unrhyw ddyfais neu lwyfan.

-
Windows
-
Apple
-
Android
-
Y We
Yn well gydag Office
Mae OneNote yn aelod o'r teulu Office rydych chi’n ei adnabod eisoes. Gallwch lunio nodiadau gyda phwyntiau a dynnwyd o negeseuon e-bost Outlook, neu blannu tabl Excel. Gwnewch fwy gyda phob un o’ch hoff apiau Office yn gweithio gyda'i gilydd.

Cysylltwch yn yr ystafell ddosbarth
Dod â myfyrwyr at ei gilydd mewn gofod cydweithredol neu roi cymorth unigol mewn llyfrau nodiadau preifat. A dim mwy o daflenni wedi’u hargraffu. Gallwch drefnu gwersi a dosbarthu aseiniadau o lyfrgell gynnwys ganolog.
Darganfod y Llyfr Nodiadau Dosbarth
