Apiau dan sylw
Manteisiwch i'r eithaf ar OneNote gyda'r apiau a'r dyfeisiau hyn.
Brother Web Connection
Gall eich peiriant Brother (MFP/Sganiwr dogfennau) sganio delweddau a'u llwytho i fyny i OneNote ac OneDrive yn uniongyrchol heb orfod mynd drwy gyfrifiadur personol.
Chegg
Gall myfyrwyr gadw eu hatebion gwaith cartref pwysig o Chegg Study Q&A i OneNote. Mae'n rhwydd gyda'r botwm "Clipio" OneNote. Yno, gallwch ddechrau rhoi trefn ar eich atebion yn ôl pwnc, dosbarth neu aseiniad, a gallwch chwilio drwy'r cyfan yn syth yn OneNote. Gallwch greu'r canllaw astudio delfrydol a'i rannu gyda'ch cyd-ddisgyblion.
cloudHQ
Gallwch integreiddio eich nodiadau OneNote gyda cloudHQ. Gallwch gysoni eich llyfr nodiadau gyda gwasanaethau poblogaidd eraill yn y cwmwl fel Salesforce, Evernote, a Dropbox. Gallwch gydweithio'n rhwydd ag eraill, rhannu eich syniadau mewn unrhyw ap, a'u cysoni'n awtomatig yn ôl i OneNote. Hefyd, mae'n bosib creu copi wrth gefn o'ch llyfrau nodiadau OneNote mewn gwasanaethau eraill yn y cwmwl i gadw'ch syniadau'n ddiogel rhag ofn i chi eu dileu mewn camgymeriad.
Newton
Gallwch gadw negeseuon e-bost pwysig i OneNote gyda dim ond un clic gan ddefnyddio Newton. P’un ai yw’n dderbynneb, yn rysáit, neu’n neges e-bost bwysig gan gwsmer, defnyddiwch integreiddiad Newton OneNote i gadw popeth gyda’i gilydd.
Docs.com
Mae Docs.com yn caniatáu i ddefnyddwyr raeadru nodiadau neu ddeunyddiau dysgu drwy lyfrau nodiadau OneNote. Mae'n galluogi athrawon a myfyrwyr ym mhob cornel o'r byd i weld ac ailddefnyddio eich llyfr nodiadau OneNote, a drwy hynny eich gwneud yn fwy poblogaidd a dylanwadol yn y gymuned.
Doxie Mobile Scanners
Mae Doxie yn fath newydd o sganiwr papur mae modd ei ail-wefru, er mwyn i chi allu sganio dogfennau yn unrhyw le - heb orfod cael cyfrifiadur. Y cyfan sydd angen ei wneud yw ei wefru a'i roi ymlaen, lle bynnag ydych chi - mewnosodwch eich papur, eich derbynebau a'ch lluniau i'w sganio, eu harchifo a'u rhannu. Mae Doxie yn sganio yn unrhyw le, wedyn yn cysoni ag OneNote i chi allu cael gafael ar yr holl ddogfennau rydych chi wedi'u sganio, ar eich holl ddyfeisiau
EDUonGo
Mae EDUonGo yn gadael i unrhyw un lansio academi neu gwrs ar-lein mewn amrantiad. Gall myfyrwyr EDUonGo allgludo gwersi'n hwylus i'w llyfr nodiadau eu hunain. Fel hyn, bydd myfyrwyr yn gallu cymryd nodiadau a'u rhannu ag eraill yn rhwydd. Gall myfyrwyr hefyd gysylltu â'u cyfrifon OneDrive. Fel athrawon, gallwch chi gynnwys fideos o Office Mix yn eich gwersi.
E-bostio i OneNote
Cipiwch y pethau sy'n bwysig i chi pan fyddwch chi yma a thraw drwy eu e-bostio'n uniongyrchol i'ch llyfr nodiadau! Anfonwch ddogfennau, nodiadau, rhestri a llawer mwy at me@onenote.com a byddwn yn eu rhoi yn eich llyfr nodiadau OneNote, lle gallwch chi gael gafael arnyn nhw o'ch holl ddyfeisiau.
Epson Document Capture Pro
Mae Document Capture Pro yn caniatáu i chi sganio dogfennau, golygu tudalennau, cadw ffeiliau a throsglwyddo data'n hawdd i'r rhaglenni wedi'u sganio gyda sganwyr Epson fel Workforce® DS-30, DS-510, DS-560 ac eraill. Ar ben hynny, gall defnyddwyr sganio i OneNote gydag un cyffyrddiad, er mwyn gallu cael gafael ar ddogfennau'n hawdd o nifer o ddyfeisiau neu eu rhannu â phobl eraill.
eQuil Smartpen2 & Smartmarker
Ysgrifennwch eich nodiadau ar unrhyw arwyneb a'u hanfon i OneNote drwy ei wneud yn arwyneb clyfar gydag eQuil Smartpen2 a Smartmarker. Dyma'r ffordd naturiol o gofnodi eich syniadau gwych.
Feedly
Mae Feedly yn cysylltu darllenwyr â'r straeon a'r wybodaeth sy'n bwysig iddyn nhw. Defnyddiwch Feedly i ganfod a dilyn cynnwys grêt, wedyn cadwch yr erthyglau gorau'n uniongyrchol i OneNote gydag un clic.
Papur a Phensil gan FiftyThree
Trosi eich syniadau o'r Pensil i'r Papur a mynd cam ymhellach gydag OneNote. Gallwch ysgrifennu a lluniadu'n fwy manwl ac yn haws gyda'r Pensil, ac os ydych chi'n gwneud camgymeriad gallwch fflipio'ch ysgrifbin drosodd a defnyddio'r rhwbiwr yn union fel pensil arferol - a hyn i gyd yn uniongyrchol yn OneNote. Gallwch gymryd nodiadau'n rhwydd, llunio rhestrau gwirio a gwneud brasluniau ar y Papur ac wedyn eu rhannu ar OneNote i wneud llawer iawn mwy, fel cydweithio mewn llyfr nodiadau a rennir, ychwanegu recordiadau sain a chael gafael ar eich cynnwys ar eich holl ddyfeisiau.
Genius Scan
Mae Genius Scan yn sganiwr yn eich poced. Mae'n eich galluogi i ddigideiddio dogfennau papur, creu ffeiliau PDF a'u storio ar unwaith yn OneNote.
JotNot Scanner
Mae JotNot yn trosi eich iPhone yn sganiwr nifer o dudalennau symudol. Gallwch ddefnyddio JotNot i sganio dogfennau, ryseitiau, byrddau gwyn, cardiau busnes a nodiadau i fformat electronig. Mae JotNot nawr yn cynnig integreiddio uniongyrchol â llwyfan Microsoft OneNote, er mwyn i chi allu gwneud copi wrth gefn a threfnu eich sganiau yn hawdd drwy ddefnyddio eich cyfrif OneNote.
Livescribe 3 Smartpen
Gyda'r pin clyfar Livescribe 3 a'r ap Livescribe+, ysgrifennwch ar bapur a gweld popeth yn ymddangos ar unwaith ar eich dyfais symudol, lle gallwch chi dagio, chwilio a throsi eich nodiadau yn destun. Gallwch anfon popeth i OneNote er mwyn integreiddio eich nodiadau a'ch lluniadau ysgrifenedig â gweddill eich gwybodaeth bwysig.
Mod Notebooks
Mae Mod yn llyfr nodiadau papur mae modd cael gafael arno o'r cwmwl. Gwnewch nodiadau gyda phin a phapur cyfarwydd, wedyn gallwch ddigideiddio eich tudalennau am ddim. Mae modd cysoni pob tudalen o lyfr nodiadau i OneNote a'i chadw am byth.
NeatConnect
Mae NeatConnect yn gweddnewid pentyrrau o bapurau yn ddogfennau digidol ac yn eu hanfon yn syth i OneNote - heb gyfrifiadur. O unrhyw ystafell yn eich tŷ, neu unrhyw le yn y swyddfa, mae'r ffaith bod NeatConnect yn gweithio gyda Wi-Fi a'i ryngwyneb sgrîn gyffwrdd yn golygu bod sganio i OneNote yn gyflym ac yn hawdd er mwyn i chi allu arbed amser, gan fod yn fwy trefnus a chynhyrchiol nag erioed o'r blaen.
News360
Mae News360 yn ap newyddion personol am ddim sy'n dysgu beth rydych chi'n ei hoffi ac yn gwella po fwyaf rydych chi'n ei ddefnyddio. Gyda dros 100,000+ o ffynonellau, mae rhywbeth difyr bob amser ar gael i'w ddarllen, a gallwch gadw eich hoff straeon yn uniongyrchol i OneNote drwy daro un botwm.
Nextgen Reader
Darllenydd RSS cyflym, eglur a deniadol ar gyfer Windows Phone. Nawr gallwch gadw erthyglau yn uniongyrchol ar OneNote. Mwynhewch y darllen!
Office Lens
Mae Office Lens fel cael sganiwr yn eich poced. Peidiwch byth â cholli nodiadau ar fwrdd gwyn neu fwrdd du, a pheidiwch byth â gorfod chwilio am ddogfennau neu gardiau busnes sydd wedi'u colli, derbynebau neu nodiadau gludiog coll eto! Mae Office Lens yn golygu bod modd i chi ddarllen ac ailddefnyddio eich lluniau. Cipiwch gynnwys yn syth i OneNote gyda thocio a glanhau awtomatig.
OneNote For AutoCAD
Mae OneNote ar gyfer AutoCAD yn gadael i chi wneud nodiadau ochr yn ochr â'ch darlun yn AutoCAD. Mae hyn yn cynorthwyo penseiri a pheirianwyr proffesiynol ym mhedwar ban byd i fod yn fwy cynhyrchiol gan ddefnyddio AutoCAD i greu darluniau 2D a 3D. Bydd copi wrth gefn o'r nodiadau hyn yn cael ei gadw yn y cwmwl a gellir cael gafael ar y nodiadau unrhyw bryd. Gall defnyddwyr weld y nodiadau hyn y tro nesaf y byddan nhw'n agor y darlun yn AutoCAD.
OneNote Class Notebooks
Cadwch drefn ar eich cynlluniau gwers a chynnwys cwrs yn eich llyfr nodiadau digidol eich hun gyda man gwaith personol ar gyfer pob myfyriwr, llyfrgell gynnwys ar gyfer taflenni gwaith, yn ogystal â gofod ar gyfer cydweithio ar dasgau gwers a gweithgareddau creadigol.
OneNote Web Clipper
Mae Clipiwr Gwe OneNote yn eich galluogi i gadw tudalennau gwe o'ch porwr i'ch llyfrau nodiadau OneNote. Gyda dim ond un clic, mae'n eich helpu i gipio pethau'n gyflym ac yn eich atgoffa am fwy o bethau yn eich bywyd.
Powerbot for Gmail
Cadw negeseuon e-bost, sgyrsiau ac atodiadau pwysig yn OneNote yn syth o'r rhyngwyneb Gmail. Dim mwy o neidio o un ap i'r llall.
WordPress
Gallwch greu eich post WordPress ar unrhyw ddyfais, ar draws platfformau, ar-lein neu all-lein yn OneNote ac ailddefnyddio'r cynnwys yn rhwydd o'ch holl nodiadau presennol.
Zapier
Zapier yw'r ffordd hawsaf o gysylltu OneNote â'r apiau rydych chi eisoes yn eu defnyddio, fel Salesforce, Trello, Basecamp, Wufoo a Twitter. Defnyddiwch yr ap hwn i wneud copi wrth gefn o nodiadau, cadw cofnod o dasgau sydd wedi'u cwblhau neu gadw cysylltiadau newydd, lluniau, tudalennau gwe a mwy.